Fe fydd cyfraith newydd sy’n gwahardd ffioedd gosod eiddo yn dod i rym o ddechrau mis Medi ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd y ddeddf, ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, yn ei gwneud hi’n drosedd i godi tâl ar denant nad yw wedi ei bennu’n ‘daliad a ganiateir’ o dan y ddeddfwriaeth.

Mae hynny’n golygu na fydd tâl yn cael ei godi ar denantiaid ar bethau fel ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract nac adnewyddu tenantiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y byddai’r ddeddf yn arbed £200 i denantiaid fesul tenantiaeth.

“Rydyn ni’n deall bod angen i landlordiaid ac asiantiaid gael amser i addasu eu modelau a’u harferion busnes er mwyn cydymddffurfio â’r newid yn y gyfraith,” meddai’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.

“Ond rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni am weld y ddeddfwriaeth bwysig hon yn dod i rym cyn gynted â phosib sy’n bosib, ac yn enwedig cyn i’r myfyrwyr ddechrau eu tymor yn yr hydref mewn prifysgolion yng Nghymru.”