Mae Archesgob Cymru ymhlith y rhai sydd wedi collfarnu cyfreithiau “anwaraidd” sydd wedi’u cyflwyno yn ddiweddar yn Brunei, sy’n cynnwys cosbau llym i hoywon a phobol sy’n troi cefn ar grefydd Islam.

Mae unigolion a sefydliadau ledled y byd wedi beirniadu’r wlad fechan yn ne-ddwyrain Asia ers i’r cyfreithiau Islamaidd newydd gael eu cyflwyno yr wythnos ddiwethaf.

Bu dwsinau o bobol yn protestio y tu allan i westy’r Dorchester yn ninas Llundain ddydd Sadwrn (Ebrill 6), wrth i dyrfaoedd dargedu busnesau sy’n gysylltiedig â phennaeth Brunei, Swltan Hassanal Bolkiah.

Mae rhai hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i wahardd Brunei o’r Gymanwlad, ond mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi gwrthod hynny, gan ddweud nad dyna’r “ffordd orau” o annog y wlad i barchu hawliau dynol.

‘Angen meddwl eto’

“Mae cyflwyno’r cyfreithiau newydd anwaraidd hyn yn gam sy’n wrthun yn foesol,” meddai’r Archesgob John Davies.

“Nid yw’n rhoi unrhyw ystyriaeth i ddealltwriaeth gadarn am rywioldeb dynol a’i natur ac mae’n groes i’n hawl dynol sylfaenol i addoli’n rhydd.

“Gobeithiaf y bydd y gyfundrefn yn Brunei, y Swltan yn neilltuol, yn ymateb yn bersonol i’r protestiadau a gododd drwy feddwl eto.”