Fe fu na groeso i’r cyhoeddiad heddiw bod gobaith creu 400 o swyddi  yn Ynys Môn, wedi i’r cwmni  sydd wedi eu ffafrio ar gyfer hen waith Alwminiwm Môn ddweud eu bod yn bwriadu sefydlu parc eco ar y safle ger Caergybi.

Lateral Power Limited yw’r cwmni sydd wedi cael ei ffafrio i gymryd cyfrifoldeb dros y safle, ar ôl ystyried cynigion 12 cwmni i gyd.

Bydd parc eco Lateral Power yn cyfuno gwaith yr orsaf bwer biomas, sydd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gerllaw’r safle, gyda chanolfannau sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau.

Yn ôl y datblygwyr, bydd y gwres sy’n cael ei gynhyrchu wrth greu trydan yn yr orsaf biomas yn darparu dŵr cynnes er mwyn bwydo fferm bysgod arbenigol. Bydd y dŵr o’r fferm bysgod, yn ogystal â gwres a charbon deuocsid o’r pwerdy, wedyn yn bwydo’r tai gwydr i gynhyrchu ffrwythau a llysiau ffres.

‘Hwb mawr’

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Alex Aldridge, y Comisiynydd gyda chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd yn Ynys Môn, fod “potensial yma i roi hwb mawr i Gaergybi ac Ynys Môn. Mae’r Awdurdod wedi bod yn cydweithio’n agos gydag Alwminiwm Môn, Llywodraeth Cymru a Lateral Power Cyf ar y cynnig arloesol yma.”

Dywedodd hefyd fod cynlluniau’r cwmni i’w croesawu am greu “swyddi hirdymor ar sail egwyddorion ynni cynaliadwy.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Bryan Owen, fod gan y cynlluniau “botensial i greu buddsoddiad mawr er lles dyfodol hirdymor yr economi. Mae Môn wedi dioddef cymaint yn ddiweddar wrth golli swyddi, felly mae pwysigrwydd 400 o swyddi newydd yn aruthrol.”

Yn 2009, fe gyhoeddodd Alwmniwm Môn eu bod yn rhoi’r gorau i’w gwaith mwyndoddi ar y safle gan nad oedd y gwaith yn talu ffordd i’r cwmni. Arweiniodd y penderfyniad hwnnw at ddiswyddo 400 o staff.

Ond yn ôl y cynghorydd Bryan Owen mae “cyfnod o gyfleoedd mawr” wedi dychwelyd i Ynys Môn yn sgil y cyhoeddiad heddiw.

“Mae hwn yn gyfle i osod sail gadarn ar gyfer dyfodol Ynys Môn, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o hynny,” meddai.

‘Newyddion gwych’

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, hefyd wedi croesawu’r newyddion am greu swyddi “gwyrdd” ar yr ynys.

“Mae 400 o swyddi newydd yn newyddion gwych i Ynys Môn, a gallai’r amseru byth a fod yn well,” meddai, “mae angen swyddi newydd yma yn druenus.”

“Rydyn ni ar ymylon dirwasgiad arall ar hyn o bryd, a dim ond drwy fuddsoddi mewn swyddi y byddwn ni’n llwyddo i’w osgoi.”