Llai na thridiau cyn i gyngerdd deyrnged enfawr gael ei gynnal i gofio Michael Jackson yng Nghaerdydd, mae un o fandiau mawr y noson wedi tynnu’n ôl.
Dim ond wythnos yn ôl fe gyhoeddodd y Black Eyed Peas y bydden nhw’n perfformio yn y gyngerdd, sy’n cynnwys grwpiau fel JLS a Christina Aguilera. Ond heddiw mae’r grŵp wedi dweud bod yn rhaid iddyn nhw dynnu’n ôl oherwydd “sefyllfa na ellir ei osgoi.”
Bydd y Michael Forever Tribute Concert yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ddydd Sadwrn hyn, ac mae’r gyngerdd wedi profi mor boblogaidd nes bod pob tocyn wedi gwerthu, a bwriad erbyn hyn i we-ddarlledu’r gyngerdd yn fyw o Stadiwm y Mileniwm ar wefan Facebook.
Dyma fydd y tro cyntaf i we-ddarllediad o’r fath, sy’n costio rhyw £3 i’w wylio, gael ei gynnal ar y wefan gymdeithasu.
Yn ôl Prif Weithredwr Global Events Live sy’n cynnal y sioe, Chris Hunt, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn “noson anhygoel i bawb”.
“Mae pethau’n dod i’w lle yn dda iawn nawr” meddai.
Cyngor i deithwyr
Yn y cyfamser, mae’r rhai sydd wedi cael tocynnau i’r gyngerdd yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag bod hynny’n bosib, er mwyn osgoi tagfeydd traffig yn y brifddinas.
Y cyngor i’r rhai sydd yn gorfod dod â cheir, medd y trefnwyr, yw i ddefnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio y cyngor o’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, neu i ddefnyddio’r gwasanaeth gwennol arbennig o Clôs Sophia.
Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu cau rhai strydoedd yn ystod y gyngerdd nos Sadwrn, gyda Stryd Westgate ar gau o 4pm hyd 11pm, ac ar hyd Wood Street o 10pm i 11pm.