Fe fydd Diwrnod Barddoniaeth yn cael ei gynnal yng Nghanolfan amgylcheddol Moelyci yn Nhregarth i ddathlu diwrnod Barddoniaeth cenedlaethol Ddydd Sul, 6 Hydref.
Bydd pedwar bardd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r dydd sy’n rhad ac am ddim i’r cyhoedd – dau fardd Cymraeg a dau Saesneg, Martin Daws, Gwyn Parri, Twm Morys a Sophie McKenad. Mae’r diwrnod yn dechrau am 9.30 y bore ac yn dod i ben am 4yh.
Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdy barddoniaeth i blant a phobl ifanc yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y bore, gweithdy barddoniaeth i oedolion yn Gymraeg a Saesneg, gweithdy sgiliau perfformio yn y prynhawn a pherfformiadau egsgliwsif gan y beirdd.
Mae Diwrnod Barddoniaeth yn rhan o wythnos Gŵyl y Geiriau- gŵyl newydd ym Mangor i ddathlu Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol.
Menter gymdeithasol yw Canolfan Amgylcheddol Moelyci a’i phrif nod yw gwarchod treftadaeth Fferm Moelyci ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dyma’r tro cyntaf i Pontio gyd-weithio â’r Ganolfan amgylcheddol. Canolfan Celfyddydau ac Arloesi yw Pontio sy’dd a’i bryd ar fod yn ganolbwynt i’r gymuned leol.