Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn galw am ymchwiliad llawn ar unwaith yn dilyn honiadau fod coleg yn Llundain yn defnyddio un o arholiadau Prifysgol Cymru i helpu myfyrwyr i dwyllo’u ffordd i mewn i wledydd Prydain.

Maen nhw’n dweud bod y sefydliad yn ymddwyn fel petai “y tu hwnt i reolaeth”.

Fe fydd rhaglen Week In Week Out heno’n defnyddio ffilmio cudd i ddangos dau aelod o staff yng Ngholeg Rayat yn Llundain yn helpu myfyrwyr i dwyllo’r system fewnfudo, gan gynnwys prynu diploma sy’n dwyn enw’r Brifysgol.

Dywedodd Llywydd UCM Cymru, Luke Young: “Os oes sail i’r honiadau ynglyn ag anghysondebau pellach, yna mae brand Cymru, ei myfyrwyr a’i graddedigion wedi cael cam difrifiol.

“Yr hyn rydym wedi ei weld yn ddiweddar, yw sefydliad cenedlaethol yn bod yn ddifater ynglŷn â’i sefyllfa, ac yn gweithredu fel pe bai uwchlaw goruchwyliaeth a thu hwnt i reolaeth.

“Bydd miloedd o fyfyrwyr, ynghyd â channoedd o filoedd o raddedigion Prifysgol Cymru yn edrych ar y corff a gyflwynodd eu graddau gyda syndod ac yn rhyfeddu sut a caniatawyd i’r sefyllfa hon ddatblygu.

“Does dim dewis ond cynnal adolygiad llawn o’r honiadau, ac yna gweithredu ar fyrder i adfer hyder yn y Brifysgol.

“Byddai unrhyw beth llai na hyn yn ymwrthod â chyfrifoldeb tuag at y myfyrwyr a’r staff hynny sydd wedi adeiladu enw da brand Cymru dros y blynyddoedd.

“Wrth i Brifysgol Cymru symud tuag at uno gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a’r Drindod Dewi Sant, mae’n hanfodol bwysig fod yr effaith ar fyfyrwyr yn cael ei asesu’n gywir.”

Dywedodd Aled Roberts, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, ei fod yntau wedi galw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg.

“Mae’r ail ddigwyddiad yma sydd wedi ei ddatgelu gan BBC Cymru yn profi nad yw Prifsygol Cymru wedi dysgu unrhyw wers, dramor nac yng Nghymru.”

Y twyll

Fe ddywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, wrth y rhaglen Week In, Week Out, bod y coleg yn amlwg yn ceisio creu bwlch yn y system fewnfudo. Fe rybuddiodd y byddai pobol sy’n gwneud hynny’n cael eu herlyn.

Yn un achos, roedd y myfyrwyr yn cael y cwestiynau a’r atebion ymlaen llaw ac, yn ôl y BBC, mae tri o weithwyr y coleg wedi cael eu hatal o’u gwaith a Phrifysgol Cymru wedi tynnu’r mater at sylw’r heddlu.

Ond fe fydd y gohebydd Ciaran Jenkins hefyd yn dweud bod y coleg wedi ei gymeradwyo gan y Brifysgol yn union cyn i’r rhaglen ddechrau ymchwilio.

Yn y cyfamser mae cofrestrydd Coleg Rayat yn Llundain wedi ymddiswyddo, a thri aelod arall o staff y coleg wedi gael eu gwahardd o’u swyddi yn dilyn yr honiadau.

Mae cofrestrydd y Coleg Irvin Harris y gwadu gwneud unrhywbeth o’i le a chafodd ei wahardd o’i swydd ddydd Llun, cyn ymddiswyddo ddoe, yn ol llefarydd ar ran y coleg.  Mae tri aelod arall o staff wedi eu gwahardd o’u swyddi tra bod ymchwiliad yn parhau.

Ar ôl amheuon cynharach am bartneriaethau tramor y Brifysgol, fe gyhoeddodd yr Is-ganghellor newydd y bydden nhw’n edrych eto ar eu holl waith yn dilysu graddau.