Mae disgwyl i ymgyrchwyr iaith lansio cynllun ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg mewn digwyddiad yn y Cynulliad heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 2), gan ddweud ei bod yn “hanfodol” er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, er mwyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod 70% o ddisgyblion ysgol yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae angen cynnydd o leiaf 2.5% y flwyddyn yng nghanran y plant saith oed sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Maen nhw’n dweud bod hyn yn llawer uwch na’r twf bach sydd wedi bod ers 2010, sef 0.05% y flwyddyn.

Mae cynllun y mudiad am Ddeddf Addysg Gymraeg yn cynnwys cynnig i ddisodli cynlluniau addysg Gymraeg presennol cynghorau “gyda thargedau lleol di-droi’n-ôl”.

Y nod yn hyn o beth, medden nhw, yw sicrhau mai’r Gymraeg fyddai’r “norm” fel cyfwng addysgu ar bob lefel o addysg yng Nghymru.

“Hanfodol”

Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad yn y Senedd heddiw, sy’n cael ei noddi gan gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd cyn-Brif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce a Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC.

Bydd Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, hefyd yn siarad cyn y digwyddiad.

“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn hollol realistig a chyraeddadwy, ond, er mwyn cyrraedd y nod mae’n hollol hanfodol bod y system addysg yn cyflawni twf cyson a sylweddol yng nghanran y rhai sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai Mabli Siriol.

“Yn hynny o beth, mae angen Deddf Addysg Gymraeg yn ogystal â newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon sy’n addysgu drwy’r iaith.”

Yn ystod yr un digwyddiad, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg enghreifftiol newydd ar gyfer pob disgybl yng Nghymru.