Mae dros 100,000 o weithwyr yng Nghymru am dderbyn cynnydd yn eu cyflogau heddiw (dydd Llun, Ebrill 1) o ganlyniad i newidiadau yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog;
Bydd 95,000 o weithwyr sy’n ennill y Cyflog Byw Cenedlaethol yn derbyn £690 yn ystod y flwyddyn o heddiw ymlaen, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Bydd y rheiny sydd ar yr isafswm cyflog yn elwa o gynnydd hefyd, medden nhw, gyda’r gyfradd newydd ar gyfer gweithwyr rhwng 21 a 24 oed yn £7.70 yr awr, tra bydd gweithwyr rhwng 18 a 20 oed yn derbyn £6.15 yr awr.
Bydd 2.1m o bobol ledled gwledydd Prydain – a 114,000 yng Nghymru – yn elwa o gynnydd yn eu cyflogau heddiw, gyda disgwyl i weithwyr yn y sector manwerthu a lletygarwch elwa fwyaf.
Cafodd y Cyflog Byw Cenedlaethol ei gyflwyno gan Lywodraeth Prydain yn 2015.