Pencadlys Prifysgol Cymru
Mae BBC Cymru’n dweud fod coleg yn Llundain yn defnyddio un o arholiadau Prifysgol Cymru i helpu myfyrwyr i dwyllo’u ffordd i mewn i wledydd Prydain.
Fe fydd rhaglen Week In Week Out heno’n defnyddio ffilmio cudd i ddangos dau aelod o staff yng Ngholeg Rayat yn Llundain yn helpu myfyrwyr i dwyllo’r system fewnfudo trwy ennill diploma’r Brifysgol.
Mae ennill y diploma’n eu helpu i gael trwydded i aros yng ngwledydd Prydain am ddwy flynedd – fe fydd y rhaglen yn honni bod rhai myfyrwyr yn cael ennill y cymhwyster 15 mis mewn dim ond wythnos.
Fe ddywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, bod y coleg yn amlwg yn ceisio creu bwlch yn y system fewnfudo. Fe rybuddiodd y byddai pobol sy’n gwneud hynny’n cael eu herlyn.
Y twyll
Yn un achos, roedd y myfyrwyr yn cael y cwestiynau a’r atebion ymlaen llaw ac, yn ôl y BBC, mae tri o weithwyr y coleg wedi cael eu hatal o’u gwaith a Phrifysgol Cymru wedi tynnu’r mater at sylw’r heddlu.
Ond fe fydd y gohebydd Ciaran Jenkins hefyd yn dweud bod y coleg wedi ei gymeradwyo gan y Brifysgol yn union cyn i’r rhaglen ddechrau ymchwilio.
Ar ôl amheuon cynharach am bartneriaethau tramor y Brifysgol, fe gyhoeddodd yr Is-ganghellor newydd y bydden nhw’n edrych eto ar eu holl waith yn dilysu graddau.