Mae’r cyhoedd yng Nghymru wedi codi swm o £562,100 ar gyfer Apêl Seiclon Idai sydd wedi effeithio miliynau yn Zimbabwe, Malawi a Mozambique.

Dyma un o drychinebau tywydd gwaethaf hemisffer y de erioed gyda 700 o bobol yn cael eu lladd, a tua 3 miliwn yn cael eu heffeithio.

Fe gododd Pwyllgor Argyfwng Trychineb £8m o fewn 24 awr gyntaf yr apêl ar draws gwledydd Prydain, gyda £10m arall yn cael ei godi dros dridiau yn dilyn.

Mae Llywodraeth gwledydd Prydain hefyd wedi rhoi £4m ychwanegol, ar ben eu cyfraniad £18m cyntaf, er mwyn cyfateb i gyfranddaliadau’r cyhoedd.

“Methu credu fy llygaid”

Mae Robert Muza, 49, o Gasnewydd yn gweithio fel Cyswllt Cymunedol Pobol Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i Gyngor Casnewydd ac yn Weithiwr Ieuenctid Byd-eang gyda Hub Cymru Affrica.

Tydi o “methu credu eu llygaid,” ar ôl teithio yn ôl i Zimbabwe i gefnogi’r gwaith dyngarol, meddai.

“Mae pobl wir eisiau atebion. Maen nhw eisiau gwybod os ydy eu teulu a’u ffrindiau yn fyw neu’n farw, wedi eu cario gan y dŵr.”

Daw Robert Muza yn wreiddiol o Chimanimani yn Zimbabwe ac mae’n byw yng Nghasnewydd ers 2002.

“Mae cymaint o angen. Plîs, rhowch be fedrwch chi. Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth – rydw i wedi hynny gweld gyda fy llygaid fy hyn. Pan mae’r cymorth yn cyrraedd mae llygedyn o obaith,” meddai.