Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu agor trafodaethau yn lleol ynglŷn ag adeiladu ysgol gynradd newydd – gwerth £4.9m – yn ardal Cricieth.

Daw’r cam ar ôl i arolygon adnabod “nifer o ddiffygion sylweddol” i adeiladau Ysgol Treferthyr y byddai angen sylw o fewn y pum mlynedd nesaf.

Dywed y cyngor fod llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanystumdwy hefyd wedi dangos diddordeb yn y bwriad ac yn awyddus i fod yn rhan o’r trafodaethau.

“Yn amlwg, mae’n ddyddiau cynnar, ond rydym yn falch ein bod wedi cynnal trafodaeth gyda llywodraethwyr, staff a rhieni Llanystumdwy, yn ogystal â chynrychiolwyr o Esgobaeth Bangor, ynglŷn ag unrhyw effaith posib y gallai adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth gael ar ei hysgol hwy,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Addysg.

“Braf nodi felly fod yr ysgol yn awyddus i fod yn rhan o Banel Adolygu Lleol wrth inni ystyried y camau nesaf.”

Y camau cychwynnol

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron Cabinet y cyngor ar ddechrau mis Ebrill, a fydd yn gofyn am yr hawl i gychwyn trafodaethau yn lleol ynglŷn ag adeiladu’r ysgol newydd.

Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad i gychwyn trafodaethau gyda’r ddwy ysgol, yna fe fydd yna gyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ac yn cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion Treferthyr a Llanystumdwy.

Bydd y trafodaethau hyn, meddai’r cyngor, yn cynnwys materion fel lleoliadau posib ac anghenion ar gyfer yr ysgol newydd.