Caerdydd yw’r ddinas sydd â’r nifer uchaf o bobol heb unrhyw gynilion, o holl ddinasoedd Prydain, yn ôl gwaith ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r ymcwhil gan Gymdeithas Adeiladu Norwich & Peterborough, yn datgeglu bod bron i hanner y bobol sy’n byw yn y brifddinas heb arian wrth gefn.
Yn ôl yr ymchwil, a gynhaliwyd rhwn 9 a 15 Awst eleni, does gan 46% o bobol yng Nghaerdydd ddim cynilion o gwbwl, tra bod gan 58% o bobol llai na £1,000 wrth gefn.
Mae’r gwaith ymcwhil hefyd yn datgelu mai ym mhrif ddinas un o gwledydd eraill Prydain y mae’r nifer uchaf o bobol ag arian wrth gefn: yng Nghaeredin, dim ond 16% o’r boblogaeth sydd heb arian wedi ei roi o’r neilltu ar gyfer unrhyw argyfwng.
“Mae’n peri gofid mawr fod miliynau o bobol heb unrhyw arian wrth gefn o gwbwl,” meddai Gary Lacey, Rheolwr Cynlluniau Arbed Arian gyda Norwich & Peterborough, “ac mae hanner y boblogaeth mewn nifer o lefydd â llai na £1,000 wrth gefn.
“Gyda diweithdra ar gynnydd, mae’n debygol ei bod hi’n bwysicach nag erioed nawr i gael peth arian tu cefn i chi ar gyfer cyfnodau anodd.”
Y cyngor gan y gymdeithas adeiladu yw y dylai pobol geisio cael gwerth cwpwl o fisoedd o gyflog wrth gefn mewn cyfrif arbed arian sy’n rhwydd i gael ato, rhag ofn daw unrhyw argyfwng.
A’r rhybudd gan Gary Lacey – “Dydych chi byth yn gwybod beth sy’n disgwyl amdanoch chi fory.”