Fydd aelod sydd wedi’i wahardd o Blaid Cymru ddim yn cynnal cyfarfod ymylol yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid ym Mangor yr wythnos hon (dydd Gwener a dydd Sadwrn, Mawrth 22 a 23).

Mae Neil McEvoy wedi cadarnhau wrth golwg360 ei fod wedi penderfynu peidio â chynnal cyfarfod ymylol, “er lles y blaid”.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad tros Ganol De Cymru ei wahardd o Blaid Cymru ym mis Mawrth y llynedd, ar ôl cael ei gyhuddo o “dorri cyfres [o’u] rheolau sefydlog”.

Ond, a chyfnod ei waharddiad yn dirwyn i ben ddiwedd y mis, mae’r gwleidydd  yn gwadu’r sïon sydd ar led ei fod ef ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dod i gytundeb ynghylch ail-ymaelodi â’r blaid, a bod peidio cynnal gweithred i dynnu sylw yn ystod y gynhadledd wanwyn yn rhan o hynny.

Fe fydd yn gwneud cais i fod yn aelod unwaith eto “rywbryd ar ôl y gynhadledd”, meddai Neil McEvoy, ond mae’n gwrthod dweud pryd yn union fydd hynny.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Phlaid Cymru am ymateb.