Mae oedi o hyd ar yr A55 ar ôl i lori droi drosodd neithiwr (nos Sul, Mawrth 10) rhwng Llanddulas ac Abergele.

Fe ddigwyddodd i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 24 a chyffordd 23, ac mae’r ffordd yn cael ei hagor yn raddol erbyn hyn.

Mae traffig yn gadael y ffordd ger cyffordd 24 (Abergele) ac yn dychwelyd ger cyffordd 23 (Llanddulas), ac mae disgwyl i hynny ddigwydd tan 9.30yb.

Roedd rhybudd dros nos i gerbydau gadw draw o’r ardal yn llwyr.