Mae dros chwarter plant Cymru yn rhy dew pan maen nhw yn cychwyn ysgol yn bedair a phump oed.
Dyna ganfyddiad ymchwiliad gan y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd hefyd yn dangos bod cynnydd yn nifer y plant sy’n ddifrifol o dew – i fyny o 2.7% yn 2012/13 i 3.3% yn 2017/18.
Mae’r ganran o blant sy’n ddifrifol o dew ar ei huchaf ym Merthyr Tudful – 5.7%.
Yr ardal gyda’r ganran isaf yw Bro Morgannwg – 1.7%.
Drwyddi draw yng Nghymru yn 2017/18 roedd 1,065 o blant yn cychwyn ysgol yn ddifrifol o dew – 598 yn fechgyn a 467 yn ferched.
Roedd 26.4% o blant Cymru yn cychwyn ysgol yn dew neu yn ddifrifol o dew, o gymharu gyda 22.4% yn Lloegr.
Tewach na Lloegr
Tra bo 3.3% o blant Cymru wedi cychwyn ysgol yn ddifrifol o dew, roedd y ganran yn is yn Lloegr (2.36%) a’r Alban (2.7%).
“Nid yw nifer y plant sy’n ddifrifol o dew yng Nghymru yn gostwng, ac mae yn bryderus iawn bod plant mor ifanc â phedair oed yn syrthio i’r categori ‘difrifol o dew’,” meddai Lucy O’Loughlin o gorff Iechyd Cyhoeddus Cymru.