Mae cerbyd 4×4 bellach wedi cael ei symud o gopa’r Wyddfa.

Dyma’r eildro i’r cerbyd gael ei adael ar gopa’r Wyddfa – cafwyd hyd i’r car Vauxhall Frontera ger Hafod Eryri ddydd Iau.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymryd meddiant o’r cerbyd.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn parhau i gyd-weithio  â Chwmni Rheilffordd Yr Wyddfa a’r Heddlu yn eu hymchwiliad.

Ym mis Medi cafodd perchennog y car, Craig Anthony Williams, 39 o Cheltenham ei gyhuddo o yrru’n beryglus ac mae disgwyl iddo fynd gerbron llys ynadon Caernarfon ddydd Iau.

Cafodd dyn  39 oed ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac o achosi difrod troseddol. Cafodd ei ryddau ar fechniaeth.

‘Anghyfrifol’

Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips wythnos diwethaf: “Mae’r ymddygiad anghyfrifol yma yn hollol annerbyniol ac rwy’n annog yr heddlu i erlyn y person sy’n gyfrifol a chael gwared â’r cerbyd.”