Mae dynes Gymraeg a ddaeth i wybod bod ei phartner yn heddwas cudd, wedi dweud iddi fod yn darged mewn “cynllwyn i dreisio”.

Daw’r honiad ar ôl i rai aelodau o’r Heddlu Metropolitan gychwyn perthnasau rhywiol hirdymor gyda merched er mwyn derbyn gwybodaeth am grwpiau protest.

Mae’r cyfan yn rhan o ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan gorff yr UCPI, a gafodd ei sefydlu yn 2015 ac sy’n ymchwilio i weithgareddau cudd yr heddlu ers 1968.

Mae’r ymchwiliad eisoes wedi costio mwy na £10m a does dim disgwyl iddo ddod i ben tan 2023.

Clywed tystiolaeth

Ar sianel y BBC nos Lun (Mawrth 4), bydd BBC Wales Investigates yn clywed tystiolaeth gan rai o’r merched a fu mewn perthynas â swyddogion cudd.

“Os ydych chi’n rhoi pob dim at ei gilydd, mae gennych chi dîm o swyddogion sy’n cynllwynio i dreisio,” meddai un o’r merched.

“Roedden nhw’n gwybod nad oedd yna unrhyw gydsyniad ar sail gwybodaeth. Dyma giang cyfan, a does dim term arall y galla’i ddefnyddio na ‘giang’.

“Mae gennych chi fentoriaid, mae gennych chi drefnwyr, a thîm cyfan o bobol sy’n monitro a rheoli, dybiwn i, eu perthynas a’u gweithgareddau.”

Perthnasau yn “anghywir”

Mae’r Heddlu Metropolitan wedi cydnabod na ddylai swyddogion cudd fod wedi cychwyn perthynas rywiol hirdymor gyda merched fel rhan o’u gwaith.

“Roedd y perthnasau hynny’n anghywir a dylen nhw ddim fod wedi digwydd,” meddai llefarydd.

“Mae heddlua cudd yn dacteg gyfreithlon a phwysig sy’n cymryd troseddwyr difrifol oddi ar strydoedd ac yn helpu wrth ddiogelu ein cymunedau, ond mae’r achosion hyn yn dangos bod rhai swyddogion wedi camddefnyddio eu safleoedd.”