Mae angen dod o hyd i ffyrdd newydd o drechu tlodi plant, yn ôl yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Mae hi’n galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa, a chyhoeddi Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer tlodi plant, sy’n nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i roi sylw i galedi ariannol teuluoedd yng Nghymru.
Mae ei hadroddiad yn nodi camau y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd i wella’r sefyllfa.
Dydy Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru ddim wedi cael ei diweddaru ers 2015, ac mae’r Athro Sally Holland yn argymell newidiadau ymarferol i helpu teuluoedd heddiw, gan gynnwys y Cynllun Cyflawni.
Adroddiad y Comisiynydd
Yn ei hadroddiad, Siarter ar gyfer Newid, mae’r Athro Sally Holland yn cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys:
- gwneud mwy o blant yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim
- rhoi mynediad i fwy o blant i gynlluniau Gwyliau Llwglyd
- gwneud mwy o deuluoedd yn gymwys i dderbyn grant i’w wario ar gosta ysgol fel gwisg ac offer
- sicrhau bod polisïau gwisg ysgol ledled Cymru yn fforddiadwy, yn hyblyg, ac yn deg
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu camau y gall awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd i helpu i gyfyngu ar y costau i deuluoedd.
Ochr yn ochr â’r adroddiad, mae’r Comisiynydd Plant wedi cyhoeddi set o adnoddau i helpu ysgolion i ystyried effaith eu polisïau cyfredol ar sefyllfa ariannol teuluoedd a chynllunio newidiadau ar y cyd â phlant yn eu hysgol.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gwrando ar blant, pobol ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru,” meddai’r Athro Sally Holland.
“Mae’n amlwg bod llawer ddim yn cael eu hanghenion sylfaenol.
“Mae plant a phobol ifanc wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n llwglyd yn yr ysgol, bod eu teuluoedd yn cael trafferth fforddio’r wisg a’r offer mae arnyn nhw eu hangen ar gyfer yr ysgol, eu bod nhw’n methu fforddio cynnyrch hylendid, eu bod nhw’n colli cyfleoedd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau, a bod ganddyn nhw ansawdd bywyd, llesiant a hunanddelwedd gwaeth.
“Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir i ddweud sut maen nhw’n mynd i ymdrin â’r materion mae plant yn eu hwynebu.
“Yn rhy aml, rwy’n gweld adrannau unigol y Llywodraeth yn ymateb i sefyllfaoedd ac yn lansio mentrau newydd sydd heb eu cydgysylltu, heb unrhyw ymdrechion i adolygu effeithiolrwydd.
“Mae’n wir dweud mai San Steffan sy’n gyfrifol am lawer o’r pwysau sydd ar deuluoedd yng Nghymru: y problemau cysylltiedig â Chredyd Cynhwysol er enghraifft.
“Ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn medru gwneud sawl penderfyniad, a bod llawer mwy y gallen nhw fod yn ei wneud i helpu teuluoedd gyda’u sefyllfa nawr.”
‘Dim modd fforddio addysg am ddim’
“Mae’n swnio fel paradocs, ond does dim modd i lawer o deuluoedd fforddio addysg am ddim,” meddai’r Athro Sally Holland wedyn.
“Mae teuluoedd yn wynebu galwadau am arian o bob cyfeiriad, a’r plant sy’n talu’r pris pan fydd eu rhieni’n methu cadw i fyny gyda’r costau.
“Os ydyn ni o ddifri ynghylch sicrhau sefyllfa fwy teg a rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddysgu a thyfu, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos uchelgais wirioneddol a rhoi arweiniad go iawn wrth helpu’r miloedd o deuluoedd ledled Cymru sydd mewn trafferthion gwirioneddol.
“Pan gynigiodd ei hun yn arweinydd ar ei blaid, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai taclo tlodi plant yn flaenoriaeth. Rwy’n croesawu hynny, ond rwy’n ddiamynedd i weld cynigion pendant ar ystyr hynny i blant a’u teuluoedd.
“Trwy wrando ar yr argymhellion rwyf wedi eu hamlinellu yn fy adroddiad, rwy’n hyderus y gall Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”