Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi datgan y bydd “nifer o newidiadau strwythurol” yn cael eu gwneud dros y misoedd nesaf gan olygu bod pedwar o swyddi’n diflannu.
Daw’r newidiadau hyn wrth i’r gorfforaeth “fynd i’r afael â’r sialensau ariannol a golygyddol sy’n ein hwynebu o ganlyniad i setliad Ffi’r Drwydded newydd,” meddai’r gorfforaeth mewn datganiad.
Mae’r prif newidadau yn cynnwys dod â Theledu Saesneg a BBC Radio Wales at ei gilydd dan un strwythur reoli, gyda phenodiad Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau (Saesneg) newydd. Dywed y BBC y bydd hyn yn meithrin gwell cydweithredu rhwng y gwasanaethau a’u helpu i rannu syniadau a thalent yn haws.
Bydd y sawl a benodir yn goruchwylio BBC Radio Wales ac yn comisiynu holl adborth teledu lleol (h.y. yr holl raglenni a gomisiynir gan y timau mewnol neu’r sector annibynnol). Byddant hefyd yn gweithio gyda thimau comisiynu Vision yn Llundain i wneud yn siŵr fod cynulleidfaoedd y DU yn cael y cyfle i fwynhau mwy o’u rhaglenni lleol.
O ganlyniad, bydd y BBC yn cael gwared a dwy swydd – Pennaeth Rhaglenni (Saesneg) a Phennaeth Comisiynu.
Bydd y BBC hefyd yn penodi Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau (Cymraeg) newydd i ddatblygu un cynllun golygyddol, integredig ar gyfer y gwasanaethau Cymraeg. Er mwyn hybu mwy o gydweithredu, byddan nhw’n uno’r timau sy’n gweithio ar Radio Cymru a’r gwasanaethau ar-lein Cymraeg (ar wahan i’r timau dysgu a newyddion ar-lein). Bydd y swydd newydd hon yn lle swydd bresennol Keith Jones.
Dywed y BBC yn byddan nhw’n lleihau dyblygiad ar draws BBC Cymru gyda phenodi Pennaeth Marchnata, Cyfathrebu a Chynulleidfaoedd newydd i arwain eu holl weithgarwch allanol. Daw hyn â’r holl weithgarwch sydd ar hyn o bryd yn cael ei wneud ar draws tri thîm at ei gilydd; Strategaeth a Chyfathrebu, Datblygu Darlledu a marchnata Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
“Rwy’n credu y gall y newid yma ein helpu i greu hyd yn oed fwy o argraff yn allanol – a sicrhau ein bod yn dal i ennyn hyder a chefnogaeth ein gwylwyr a’n gwrandawyr,” meddai’r gorfforaeth.
O ganlyniad, bydd dwy swydd sydd ar hyn o bryd ar y Bwrdd – Pennaeth Datblygu Darlledu a Phennaeth Strategaeth a Chyfathrebu, hefyd yn diflannu.
Cyhoeddodd y gorfforaeth y bydd Clare Hudson yn dychwelyd i BBC Cymru ym mis Ionawr, wedi cyfnod mabwysiadu, mewn rôl ddiwygiedig – Pennaeth Cynyrchiadau BBC Cymru – fydd yn arwain yr holl dimau cynhyrchu mewnol ar draws Ffeithiol a Cherddoriaeth, Drama, Chwaraeon, Rhyngweithiol a Dysgu a radio rhwydwaith). Bydd y swydd hon yn cwmpasu cynyrchiadau lleol a rhwydwaith.
Agweddau
Mewn datganiad o eglurhad i staff BBC Cymru bore ‘ma mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru yn son am wahanol agweddau y newidiadau.
Mae’r gorfforaeth yn ceisio symleiddio’r ffordd mae’n nhw’n gweithio gan dorri nôl ar ddyblygiad a dryswch sy’n gallu rhwystro creadigrwydd.
Mae’n nhw hefyd yn gobeithio annog mwy o gydweithio ar draws eu gwasanaethau a chynyddu eu ffocws ar ddatblygu’r talent gorau.
Ymhlith y camau eraill mae lleihau costau rheoli.
Mae’r gorfforaeth yn pwysleisio “nad yw’r newidiadau sy’n cael eu tanlinellu yn adlewyrchiad o gwbl ar berfformiad y rhai sydd wedi eu heffeithio.”
“Mae pob un wedi – ac yn dal i wneud – cyfraniad sylweddol i lwyddiant presennol BBC Cymru. Rwy’n mawr obeithio y gallan nhw ddatblygu eu gyrfaoedd gyda’r BBC os mai dyna beth mae nhw’n ei ddymuno,” meddai’r BBC mewn datganiad.