Mae’r heddlu yn chwilio am ddyn a gipiodd ei ferch oddi ar ei bartner yng Nghaerdydd, cyn ei chludo hi dramor a’i gadael gyda’i deulu yn Libya.

Clywodd Justice MacDonald yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 26) bod y tad, Maher Belaid – a gafodd ei ryddhau o’r carchar ar ôl herwgipio’r ferch, Talia Belaid – wedi diflannu o’i gartref yn Hatfield, yn Swydd Hertford.

Dyma’r cam diweddaraf yn yr achos sydd wedi’i ddwyn gan deulu mam y ferch fach, Malgorzata Szymanowicz.

Aeth Malgorzata Szymanowicz i siopa wrth ymyl ei chartref yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2012, gan adael eu merch tri mis oed gyda Maher Belaid.

Roedd y tri yn byw gyda’i gilydd ar y pryd. Ond pan ddywedodd y tad ei fod yn mynd i siop goffi, yn hytrach, fe aeth â Talia Belaid i gartref ei fam yn Libya.

Mae’r ferch, sy’n troi’n saith oed ym mis Gorffennaf eleni, wedi bod yn Libya ers hynny – a’r unig gyswllt sydd gan y fam gyda hi yw trwy Skype.

Cafodd Maher Belaid ei arestio yn 2014 ar ôl dychwelyd i dde Cymru cyn cael ei ganfod yn euog o herwgipio plentyn.

Mae’r heddlu yn chwilio amdano wrth i Malgorzata Szymanowicz lansio rownd newydd o achos llys teuluol yn y llys mewn gobaith o gael ei merch yn ôl i wledydd Prydain.