Siop trin gwallt Carol Ann
Clywodd cwest i farwolaeth bachgen yn ei arddegau ei fod wedi crogi ei hun ar yr un safle lle roedd ei dad hefyd wedi lladd ei hun wythnosau’n gynt.

Cafwyd hyd i gorff Jack Williams, 16, ddydd Llun diwethaf ym Mrynglas, Casnewydd yn agos i’r safle lle roedd ei dad, Darren wedi crogi ei hun.

Roedd Darren Williams, 45, wedi lladd ei hun ar ol iddi geisio llofruddio ei wraig oriau yn gynt. Aeth i’r siop trin gwallt Carol Ann yng Nghasnewydd  lle roedd ei wraig Rachel Williams, 39, yn gweithio a dechrau tanio gwn ati.  Cafodd Rachel Williams anafiadau i’w phen glin a chafodd dau o gwsmeriaid eraill hefyd eu hanafu.

Bu’r heddlu’n chwlio am Darren Williams am rai oriau nes i’w gorff gael ei ddarganfod yng nghoedwig Brynglas.

Bu’n rhaid i Rachel Williams gael llawdriniaeth i achub ei choes,a chafodd ei rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar.

Mae’n debyg bod Jack Williams wedi cael perthynas agos â’i dad ac roedd yn ymddangos fel ei fod yn ymdopi â’r drasiedi.

Clywodd cwest yng Nghasnewydd heddiw fod Jack Williams wedi crogi ei hun ac nad oedd yr heddlu yn trin ei farwolaeth fel un amheus. Cafodd y cwest ei ohirio nes bod yr heddlu wedi cwblhau’r ymchwiliad i’w farwolaeth.