Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn 17 oed gafodd ei ladd mewn damwain ffordd ym Mhenybont-ar-Ogwr ddydd Sadwrn.

Cafodd Scott Scanlan ei ladd ar ôl i’w gar Vauxhall Corsa adael y ffordd a tharo yn erbyn coeden. Fe ddigwyddodd y ddamwain am 5.45pm ddydd Sadwrn ar Heol Simonston, Bracla ger amlosgfa Llangrallo. Doedd neb arall yn y car pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd Scott Scanlan yn byw yn lleol ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Brynteg. Roedd o wedi dechrau gweithio i gwmni Next ym mharc Waterton yn ddiweddar.

Dywedodd ei deulu bod Scott “yn fab, brawd, ewythr, ŵyr a nai cariadus a bydd colled enfawr ar ei ôl.”

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion  i gysylltu â nhw. Roedd y ffordd ar gau am bump awr tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.