Mae Rhys Hutchings, aelod o’r band Goldie Lookin’ Chain a chyn-gynghorydd Llafur yng Nghasnewydd, yn dweud mai “anrhydedd” oedd cael cyfansoddi cân er cof am Paul Flynn.
Bu farw’r Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Casnewydd nos Sul (Chwefror 17), ac yntau’n 84 oed.
Mae’r gân ‘Paul’ yn sôn am gariad y gwleidydd at ei filltir sgwâr, ei farf adnabyddus, a rhai o’i ddaliadau gwleidyddol, gan gynnwys ymgyrchu tros y defnydd o ganabis.
Mae’r gân wedi cael ei gwylio mwy na 15,000 o weithiau ar dudalen Facebook y band, ac wedi cael ei hoffi dros 200 o weithiau a’i rhannu dros 300 o weithiau.
Cafodd ei chyfansoddi gan Rhys Hutchings, y cyn-gynghorydd Llafur yn ward St. Julians yn y ddinas rhwng 2012 a 2017.
‘Dyn Casnewydd i’r carn’
“R’yn ni bron iawn yn teimlo fel pe bai popeth wnaethon ni o’r blaen yn adeiladu lan fel y gallwn ni wneud y trac hwn i Paul,” meddai Rhys Hutchings wrth golwg360.
“Roedd Paul yn elfen gyson o’n bywydau yng Nghasnewydd, a theimlad braf bob amser oedd ei weld e ar y teledu ac ati, oherwydd mai dyn Casnewydd i’r carn oedd e.
“Mae llawer o gariad at Paul yn ardal Casnewydd, ac fe fydd colled ar ei ôl e. Does dim modd disodli Paul.
“Mae’n anrhydedd fawr i ni gael cadw’r cof am Paul yn fyw, a’n bod ni’n gallu lledaenu’r cariad oedd gan bawb ato fe.”