Wrth i gynghorwyr Powys gwrdd heddiw i drafod pwy ddylai gael gwneud penderfyniadau am ddyfodol addysg uwchradd ac ôl-16 oed yn y sir, mae’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi bod yn dosbarthu llyfryn sy’n amlinellu manteision addysg cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc a chymunedau yn y sir.

O dan y cynlluniau i foderneiddio ysgolion uwchradd y sir gallai dosbarthiadau chweched dosbarth gau a saith neu wyth o ysgolion weithredu ar 13 safle. Hefyd gallai coleg addysg bellach y sir, Coleg Powys, fod yn gyfrifol am y Chweched Dosbarth.

Bydd pob aelod o’r cyngor yn cyfarfod yn Llandrindod heddiw ar ôl i 10 cynghorydd sir alw am gyfarfod llawn arbennig i wneud penderfyniadau terfynol ynglŷn â moderneiddio ysgolion uwchradd y sir.

Mae RhAG De Powys mewn cydweithrediad â Mudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys wedi cynhyrchu’r llyfryn ac wedi ei ddosbarthu i pob un o gynghorwyr Powys cyn iddyn nhw ymgynnull heddiw.

Yn ôl RhAG, cafodd y llyfryn ei gynhyrchu mewn ymateb i’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu’r awdurdod o safbwynt ad-drefnu addysg y sir ac er mwyn galluogi cynghorwyr, pan ddaw’r amser i drafod addysg cyfrwng Cymraeg, i wneud penderfyniad gwybodus ar fater fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y bobol ifanc hynny sydd wedi dewis derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r mudiad yn dadlau “yn wyneb yr anghydraddoldebau presennol sy’n bodoli o safbwynt addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, mae’r Ymgynghoriad Moderneiddio Addysg Uwchradd ac ôl-16 yn cynnig cyfle unigryw i adolygu’r ddarpariaeth bresennol, yn enwedig gan mai un o brif amcanion y rhaglen moderneiddio yw sicrhau fod cyfleoedd dysgu o safon uchel yn gyfartal hygyrch i bob dysgwr ym Mhowys (trwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg).”

Bydd rhieni hefyd yn rhannu copïau o’r llyfryn tu allan i Neuadd y Sir bore ma.