Fe fydd cyfarwyddwr cwmni yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod dybryd ar ôl i blentyn farw pan ddymchwelodd wal ar lwybr.

Cafodd Megan Burgess, 3 oed, ei lladd wrth iddi gerdded gyda’i mam ar hyd Ffordd Penrhywylfa ym Mhrestatyn yng Ngorffennaf 2008.

Dywed yr erlyniad bod George Collier wedi cynllunio’r wal, a chafodd ei adeiladu gan ei gwmni Parcol Developments Cyf.

Mae disgwyl iddo ymateb i ŵys yn Llys Ynadon Prestatyn heddiw lle fydd yn cael ei gyhuddo o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod dybryd.  Fe fydd ei gwmni hefyd yn wynebu cyhuddiad o dan y Ddeddf Iechyd a Dioglewch.