Mae nifer o wleidyddion Cymreig a Phrydeinig wedi wfftio pryderon fod y Gymraeg yn cael ei sarhau yng Nghymru ac yn ngweddill gwledydd Prydain.

Cafodd y mater ei drafod ar raglen Any Questions ar BBC Radio 4 neithiwr (nos Wener, Chwefror 15), oedd yn cael ei darlledu o Nant Gwrtheyrn.

Ar y panel roedd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru; Carolyn Harris, Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe; Ken Clarke, y cyn-Weinidog Ceidwadol, a’r newyddiadurwr Liam Halligan, sy’n hanu o deulu Gwyddelig lle mai’r Wyddeleg oedd iaith yr aelwyd.

Roedden nhw’n ymateb i gwestiwn gan Phil Lovell, “Pam mae cymaint o bobol ddeallus ym Mhrydain mor anwybodus, a hyd yn oed yn hiliol, yn eu hagwedd at y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg?”

Fe gafodd e gryn gymeradwyaeth wrth ofyn y cwestiwn.

‘Dim gwrthwynebiad i’r Gymraeg’

“Dw i ddim yn derbyn sail eich cwestiwn, meddai Ken Clarke, y cyn-Weinidog Ceidwadol, cyn ychwanegu, “Rwy’n credu eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich erlid.”

Dywedodd mai Cymraes oedd ei wraig, er nad oedd hi’n medru’r Gymraeg.

“Rwy’n credu mai’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod fy mywyd i yw’r adfywiad anhygoel yma yn yr iaith Gymraeg, a dydy’r boblogaeth Brydeinig at ei gilydd ddim wedi gwrthwynebu o gwbl fod yr iaith yn ehangu.”

Ond mae’n dweud fod rhwyfaint bach o wrthwynebiad o blith ei “genhedlaeth o bobol o dde Cymru sy’n siarad Saesneg”.

“Roedd cenhedlaeth o hen aelodau seneddol Llafur o’r de oedd yn gwrthwynebu’r holl iaith Gymraeg yma,” meddai.

“Dw i ddim wedi cwrdd ag unrhyw un felly ers blynyddoedd.

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw wrthwynebiad i’r iaith Gymraeg. Dw i’n credu eich bod chi’n teimlo fel pe baech chi’n cael eich erlid.”

Carolyn Harris “ddim yn gweld” gwrthwynebiad

“Dw i ddim yn gweld hynny,” meddai Carolyn Harris, aelod seneddol Llafur Dwyrain Abertawe wrth ateb yr un cwestiwn.

“Dw i’n dod o Abertawe. Yn holl ysgolion Abertawe, rydym yn hybu’n Cymreictod ac rwy’n falch o’m Cymreictod.

“Un o’r pethau rwy’n ei ddifaru fwyaf yw nad ydw i’n siarad Cymraeg.

“Ond dw i’n dod o gymuned dosbarth gweithiol a doedd hi ddim ar y Cwricwlwm, pan o’n i’n blentyn, i ddysgu Cymraeg.

“Mae fy ŵyr, fodd bynnag, yn rhugl.

“Ar y diwrnod cyn Dydd Gwyl Dewi, byddaf i yn y Siambr yn siarad dros Gymru, fel rwy’n ei wneud bob cyfle, gan fy mod yn falch o fod yn Gymraes, a byddwn i hyd yn oed yn fy ngalw fy hun yn Fam Gymreig!”

“Mae’r Gymraeg yn ddiogel”

“Mae’r pwnc hwn yn agos at fy nghalon,” meddai’r newyddiadurwr Liam Halligan, sy’n hanu o deulu Gwyddelig lle mai’r Wyddeleg oedd iaith yr aelwyd, cyn dweud bod “y Gymraeg yn ddiogel”.

“Daeth fy nhad o County Mayo, yn siarad y Wyddeleg yn unig, i Lundain yn y 1940au neu’r 1950au.

“Felly rwy’n teimlo’n gryf y dylid cadw’r ieithoedd hynafol hyn.

“Dw i’n credu, fel y clywsom gan Carolyn, fod y Gymraeg yn ddiogel. Mae wedi cael ei chadw.

“Mae pobol ifanc yn ei dysgu yn eu heidiau, yn fwy o lawer na phan oeddwn i yn yr ysgol.

“Dw i’n credu bod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn eitha’ da wrth ei hyrwyddo. Dw i’n eu cymeradwyo nhw am hynny.”

Ond mae’n wfftio’r awgrym fod pobol yng ngwledydd Prydain yn “hiliol” tuag at y Gymraeg.

“Mae galw pobol yn hiliol, gyda phob parch, yn gam mawr iawn,” meddai. “Mae’n air cryf iawn na ddylid ei defnyddio’n ysgafn.

“O wylio’r ddadl hon o Loegr, y lle ar draws y ffordd, ro’n i’n falch fod yr ymgais i ddileu Comisiynydd y Gymraeg wedi’i ollwng yn ddiweddar.

“Ar y llaw arall, ac fe allai hyn fod yn ddadleuol, rwy’n deall y bydd rhaid dysgu rhywfaint o Saesneg mewn meithrinfeydd fel rhan o’r Cwricwlwm newydd,” meddai am y polisi sydd bellach wedi cael ei ddileu.

“Rwy’n credu bod hynny’n iawn.”

Y Gorfforaeth Ddarlledu Frythonig?

Wrth ddweud bod gan y BBC “gyfle enfawr… i godi ymwybyddiaeth yng ngweddil yr ynysoedd hyn” o’r iaith Gymraeg, awgrymodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru – a’i dafod yn ei foch – y “gellid ail-frandio’r BBC yn Gorfforaeth Ddarlledu Frythonig”.

Fe gyfeiriodd at neges @ONaRhian ar Twitter, lle mae’n troi’r sarhad am droi i’r Gymraeg mewn tafarn wrth i’r Saeson gerdded i mewn, yn stori am y Frythoneg yn oes yr Eingl Sacsoniaid.

“Gan ein bod ni yma yn Nant Gwrtheyrn, sydd wedi’i henwi ar ôl brenin Prydeinig o Gymru, fe wnaeth rhywun drydar heddiw ei bod yn ffaith nad yw llawer yn gwybod amdani fod pawb yn siarad Saesneg tan bod y Sacsoniaid yn cyrraedd y glannau hyn yn y bumed ganrif, ac yna fe wnaeth pawb droi i siarad Cymraeg!

“Mae’n adrodd cyfrolau am y feddylfryd Seisnig, ond efallai pe baech chi’n adrodd mwy am y diwylliant cyfoethog, amrywiol sydd gennym yma yng Nghymru…

“Mae’n rhan o etifeddiaeth gyffredin yr ynysoedd hyn. Dywedwch wrth bobol amdani, dathlwch hi.”