Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gerbyd 4×4 gael ei ddarganfod ar gopa’r Wyddfa am yr ail waith o fewn mis.

Roedd y Vauxhall Frontera wedi cael ei ddarganfod ger y ganolfan ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa fore dydd Iau.

Mae’n debyg mai yr un car gafodd ei adael ar y copa ar 3 Fedi.

Cafodd perchennog y car, Craig Anthony Williams, 39 o Cheltenham ei gyhuddo o yrru’n beryglus ac mae disgwyl iddo fynd gerbron llys wythnos nesaf.

Yn ôl llygad dystion, roedd na arwydd yn ffenest y car ddydd Iau yn dweud bod y 4×4 i gael ei werthu mewn arwerthiant ar y rhyngrwyd i godi arian ar gyfer tîmau achub lleol.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod dyn  39 oed wedi ei arestio ddoe ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac o achosi difrod troseddol. Cafodd ei ryddau ar fechniaeth nes bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad pellach.

‘Anghyfrifol’

Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips wythnos diwethaf: “Mae’r ymddygiad anghyfrifol yma yn hollol anerbyniol ac rwy’n annog yr heddlu i erlyn y person sy’n gyfrifol a chael gwared â’r cerbyd.”

Dylai  unrhywun sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu 0845 607 1001.