Mae disgwyl i reolwr tîm pêl-droed Caerdydd Neil Warnock a’r prif weithredwr Ken Choo fynd i angladd Emiliano Sala yn yr Ariannin ddydd Sadwrn (16 Chwefror).
Roedd y pêl-droediwr 28 oed wedi arwyddo i Gaerdydd o Nantes fis diwetha’ mewn cytundeb gwerth £15 miliwn ond bu farw mewn damwain awyren yn y Sianel ger Alderney ar 21 Ionawr.
Cafodd corff Emiliano Sala ei godi o weddillion yr awyren ar wely’r môr ddydd Iau diwethaf. Mae corff y peilot David Ibbotson, 59, yn parhau ar goll ac mae ei deulu yn ceisio codi arian i dalu am ymdrech arall i chwilio amdano. Mae perchennog tîm pêl-droed Caerdydd Vincent Tan wedi gwneud cyfraniad personol o £50,000.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb y byddai Neil Warnock a Ken Choo yn rhan o ddirprwyaeth o Gaerdydd a fydd yn mynd i angladd Emiliano Sala yn nhref Progreso yn nhalaith Santa Fe. Nid oes gan Gaerdydd gem dros y penwythnos am eu bod nhw allan o Gwpan yr FA.
Fe fydd corff Emiliano Sala yn cael ei gludo i’r Ariannin heddiw (dydd Gwener, 15 Chwefror).
Fe fydd ei gyn-glwb Nantes yn cael ei gynrychioli gan yr amddiffynnwr Nicolas Pallois a’r ysgrifennydd cyffredinol Loic Morin.