Fe fydd hyfforddwr a phrif weithredwr yr Adar Gleision ymhlith y rhai fydd yn bresennol yn angladd Emiliano Sala dros y penwythnos.
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cadarnhau y bydd Neil Warnock a Ken Choo yn rhan o’r gynrychiolaeth a fydd yn teithio i’r Ariannin ar gyfer y dydd Sadwrn (Chwefror 16).
Roedd yr ymosodwr 28 oed newydd arwyddo cytundeb gwerth £15m gyda’r Adar Gleision pan fu farw tra oedd yn teithio ar awyren breifat o Nantes yn Llydaw i Faes Awyr Caerdydd.
Cafodd ei gorff ei ganfod yng ngweddillion y Piper Malibu N264DB ddydd Iau (Chwefror 7), ond mae corff y peilot, David Ibbotson, yn dal i fod ar goll.
Mae Vincent Tan, perchennog yr Adar Gleision, wedi cyfrannu rhodd personol gwerth £50,000 at gronfa sy’n ceisio sicrhau bod y chwilio yn parhau.
Dychwelyd adref
Bydd angladd Emiliano Sala yn cael ei gynnal yn nhref Progreso yn rhanbarth Sante Fe, gyda disgwyl i’w gorff gael ei ddychwelyd i’r Ariannin y diwrnod cynt.
Bydd gwylnos yn cael ei gynnal yng nghlwb San Martin de Progreso ar y dydd Sadwrn.
“Rydym yn aros amdanat ti… fel y diwrnod cyntaf y gwnest ti ein gadael, ond y tro hwn fe fyddi di’n aros gyda ni am byth,” meddai’r clwb mewn datganiad ar Facebook.
“Fe aethost ac rwyt ti’n esiampl i bawb. Fe fyddi di yn ein calonnau yn dragywydd.”