Mae angen i’r Llywodraeth newid ei blaenoriaethau wrth gynnal a hybu’r Gymraeg, a buddsoddi £5 miliwn ar unwaith mewn pedwar maes allweddol – sef cartref, y gymuned, y gweithle ac addysg.

Dyna yw barn y mudiad Dyfodol i’r Iaith, sy’n galw am i fwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynllunio ieithyddol yn lle ar hawliau a safonau.

Mae hefyd am weld cyrff cyhoeddus fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion yn “parhau i allu gweithredu’n greadigol ac effeithiol”.

Mae sylwadau’r mudiad yn dilyn eu beirniadaeth o gyhoeddiad y Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf y bydd y drefn bresennol o Gomisiynydd y Gymraeg yn parhau, yn hytrach na sefydlu corff cynllunio ieithyddol.

‘Newid y pwyslais’

Yn ôl cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd, mae’r “brif sylw a’r flaenoriaeth wedi bod ar safonau a hawliau iaith” dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond er mwyn sicrhau “siaradwyr Cymraeg naturiol” yn y dyfodol, mae angen rhoi blaenoriaeth ar y prif feysydd cynllunio iaith, meddai.

Mae yntau a’i gyd-ymgyrchwyr yn galw am:

  • gynyddu nifer y cartrefi Cymraeg o 7% i 10% o fewn pum mlynedd gyda gofal meithrin cyfrwng Cymraeg yn ategu hyn fel rhan greiddiol o’r gymuned leol;
  • greu rhaglenni o hyrwyddo cymunedau Cymraeg, gan gynnwys creu gwahanol fodelau o Ganolfannau Cymraeg a gofal meithrin cyfrwng Cymraeg sy’n rhan greiddiol o’r gymuned leol;
  • greu cwotâu er mwyn cynyddu nifer y gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn llywodraeth leol;
  • sicrhau twf cyflym addysg Gymraeg.

Ychwanega Heini Gruffudd y byddai ‘Bil y Gymraeg’, a gafodd ei dynnu’n ôl gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, wedi “agor y drws er mwyn cael cynllunio iaith gwirioneddol”.

“Rydym yn derbyn bellach nad oes asiantaeth allanol yn mynd i fod am rai blynyddoedd o leiaf,” meddai wrth golwg360.

“Ond yn y cyfamser, mae angen i’r Llywodraeth ei hun sefydlu asiantaeth felly yn fewnol, gyda phwyslais mawr ar feysydd craidd cynllunio iaith.”

Mewn ymateb, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, eisoes wedi “ymrwymo i gryfhau cynllunio ieithyddol yng Nghymru”, ac y bydd hi’n gwneud hyn mewn ymgynghoriad â “rhanddeiliaid allweddol”.