Cafodd llanc 17 oed ei ladd mewn damwain ffordd yn Bracla, Penybont-ar Ogwr neithiwr.

Mae’n debyg bod y dyn wedi bod yn gyrru car Vauxhall Corsa lliw arian ar hyd Heol Simonston pan aeth oddiar y ffordd a tharo yn erbyn coeden.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ynglŷn â’r ddamwain a

ddigwyddodd am 5.45pm neithiwr ar Heol Simonston ger amlosgfa Llangrallo.

Roedd y gyrrwr yn byw’n lleol a doedd neb arall yn y car ar y pryd.

Cafodd y ffordd ei chau am 5 awr tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â unrhywun a welodd y ddamwain neu a oedd wedi aros i helpu’r llanc. Y rhifau ffon yw 01656 655555 neu Taclo’r Tacle 0800 555111.