Fe fyddai Brexit heb gytundeb yn “drychinebus” ac mae angen i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, anghofio am yr opsiwn yma gan “nad oes amser i’w wastraffu”, yn ôl Mark Drakeford a Nicola Sturgeon.

Yn syml, maen nhw’n galw ar Theresa May i dynnu Brexit heb gytundeb oddi ar y bwrdd a chyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu Mawrth 29 fel y diwrnod mae gwledydd Pyrdain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ben hynny, maen nhw eisiau hi i ofyn am estyniad i ddyddiad cau Erthygl 50.

“Rydym yn arbennig o awyddus i wneud hynny i bwysleisio’r pwynt bod yr holl dystiolaeth a welwyd hyd yn hyn yn awgrymu nad yw’r gwledydd Prydain yn barod ar gyfer Brexit heb gytundeb o fewn llai na dau fis,” meddai’r ddau.

“Byddai canlyniad o’r fath yn drychinebus, yn amharu yn sylweddol ar fywydau dinasyddion cyffredin yn ogystal ag i fusnesau a dyfodol tymor hir ein heconomi.”

Mae’r datganiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Tŷ’r Cyffredin, Cynulliad Cymru a Senedd yr Alban i gyd wedi gwrthod cytundeb Theresa May.

Yn ychwanegol, mae’n honni bod ei llywodraeth “yn methu” wrth sicrhau trefniadau eraill i gytundeb wrth gefn Iwerddon i alluogi’r cytundeb i basio drwy’r Senedd.