Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu am chwe blynedd ar ôl i nyrs gael eu lladd mewn damwain draffig ddifrifol cyn y Nadolig.

Fe dderbyniodd Osian Hicks-Thomas o Gricieth y ddedfryd ar ôl pledio’n euog i ladd Rebecca Louise trwy yrru’n beryglus ar Ragfyr 21.

Bu farw’r ddynes 34 oed yn y fan a’r lle yn sgi y ddamwain ar ffordd yr A499 yn ardal Penrhos ger Pwllheli.

Ar ôl ffoi o’r safle, fe gafodd Osian Hicks-Thomas ei arestio yn ddiweddarach a’i gyhuddo o droseddau sy’n cynnwys achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, yfed a gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a methu â stopio yn dilyn damwain.

Mae’r gŵr ifanc hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 13 mlynedd a hanner.