Mae disgwyl i Theresa May ymweld â Gogledd Iwerddon heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 5) er mwyn ceisio darbwyllo arweinwyr gwleidyddol y gall hi sicrhau cytundeb Brexit sydd â “chefnogaeth eang” yn y rhanbarth.

Mewn araith yn Belfast, mae disgwyl iddi gydnabod ei bod hi’n “gyfnod pryderus”, ond ei bod hi hefyd yn bosib i “ganfod ffordd i ddarparu Brexit” sy’n cynnwys osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Ymhlith y gwleidyddion sydd am gyfarfod â Theresa May yn ystod ei hymweliad yw arweinydd y DUP, Arlene Foster, sy’n honni bod y cytundeb Brexit yn ei ffurf bresennol, sy’n cynnwys trefniadau penodol i’r ffin yng Ngogledd Iwerddon, yn mynd yn groes i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Mae hefyd yn pryderu y byddai’r cytundeb yn creu ffin newydd rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill gwledydd Prydain.

Trafodaethau

Yn y cyfamser, mae cyfarfodydd rhwng aelodau Ceidwadol sydd o blaid ac yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn parhau.

Nod eu trafodaethau yw cytuno ar gynlluniau amgen i’r trefniadau ar gyfer Gogledd Iwerddon, a hynny yn unol â’r hyn sy’n cael ei amlinellu yn Nghyfaddawd Malthouse.

Bu’r cyfarfod rhwng y Ceidwadwyr a swyddogion o Lywodraeth Prydain ddoe (dydd Llun, Chwefror 4), gyda’r adran Brexit yn dweud iddyn nhw gael cyfarfod “manwl ac adeiladol”.