Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn ymgais i ddwyn o dwll yn y wal yng ngogledd Powys.

Daw’r apêl wedi i aelod o’r cyhoedd weld grŵp o bobol yn ymddwyn yn amheus ger peiriant arian Sgwâr y Farchnad, Llanrhaeadr ym Mochnant.

Mae’r tyst yn honni iddo gael ei fygwth gan un o’r bobol – y gred yw taw dynion oedden nhw – cyn iddyn nhw ddiflannu mewn cerbyd.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth gan bobol a oedd yn yr ardal rhwng 2 o’r gloch y bore, a 3.30 y bore, ar dydd Gwener (Ionawr 25).

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod: DP-20190125-020.