Mae caplan prifysgol wedi’i enwi’n ‘Fodel Rôl Hoyw’ y Flwyddyn am ei waith yn hyrwyddo cydraddoldeb LHDT o fewn y gweithle.
Mae Ray Vincent yn Gaplan Cyswllt ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae wedi derbyn yr anrhydedd gan yr elusen Stonewall.
Yn flynyddol, mae’r elusen yn enwi unigolion a grwpiau sydd wedi gwneud “cyfraniad eithriadol” i gynhwysiant LHDT yn eu gweithle.
Cafodd 12 cyflogwr yng Nghymru eu cynnwys yn rhestr y 100 Cyflogwr Gorau yng ngwledydd Prydain hefyd, gan gynnwys y Cynulliad a gyrhaeddodd y pump uchaf.
‘Mae’n iawn i fod yn hoyw’
“Nid ydi bod yn fodel rôl ddim o reidrwydd yn golygu bod yn berson arbennig o rinweddol neu ddewr,” meddai Ray Vincent.
“Rwy’n credu mai prif swyddogaeth model rôl mewn sefydliad sydd gydag amgylchedd amlddiwylliannol fel prifysgol yw dangos i bobol ei bod hi’n iawn i fod yn hoyw.
“Ar yr un pryd, rwy’n cael fy nghymell i fod yn fwy gweladwy ac i weithio’n galetach er mwyn helpu pobol i fod yn bwy ydyn nhw.
“Fel Gweinidog Cristnogol, rwy’n ymwybodol iawn o’r boen a achosir i bobol LHDT gan agwedd llawer o bobol yn yr eglwysi.
“Rwyf wedi ei deimlo fy hun, ac rwy’n gresynu’n fawr fod hyn yn dal yn brofiad i lawer heddiw.
“Ond mae’r gymuned Gristnogol yn amrywiol iawn, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Gristnogion hynny sydd wedi fy nghefnogi a pharhau i fy ngharu am fel yr wyf i.”