Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar HSBC i gynnig gwasanaethau Cymraeg ar y we.
Daw’r alwad ar ôl i’r banc ymateb i gŵyn gan ddweud iddyn nhw dderbyn llythyr “mewn iaith estron” gan gwsmer yn Wrecsam, Nia Lloyd.
“Rwy’n sylwi ein bod ni wedi derbyn y neges mewn iaith dramor,” meddai’r llythyr Saesneg gan y banc.
“Rydym yn gofyn yn garedig i chi anfon y neges yn Saesneg a byddem yn falch o’ch helpu ymhellach”.
Cwynion tebyg
Nid dyma’r tro cyntaf i’r banc – na banciau eraill – ennyn dicter am fethu â chydnabod y Gymraeg fel un o brif ieithoedd ei gwsmeriaid.
“Rwy’n gwybod pa mor anodd yw gorfod defnyddio Saesneg fel ein hiaith swyddogol yn bancio ar y we,” meddai banc Barclays wrth ymateb i gwsmer.
“Gallwch ddanfon awgrym atom ac fe wnawn ei gyflwyno i’n Tîm Datblygu i’w astudio a chyflwyno bancio ar y we yn Gymraeg. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n ei ystyried.”
Dywed yr un ymateb fod “defnyddio cyfieithydd Google” yn opsiwn arall, gan ei fod yn “ddibynadwy iawn”, a bod gan rai ffonau offer cyfieithu “sy’n cael eu defnyddio’n aml gan dwristiaid”.
Galw am gyfarfod
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i benaethiaid HSBC a Barclays am gyfarfod i drafod y cwynion.
“Mae’r sylwadau yn sarhaus, ond nid yn annisgwyl,” meddai Tamsin Davies ar ran y mudiad.
“Wedi’r cwbl, mae banciau yn amharchu’r Gymraeg a’i siaradwyr bob dydd.
“Does yr un banc yn darparu gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg.
“Dyna pam fod Nia, a channoedd o bobol, wedi cysylltu â’u banciau dros yr wythnosau diwethaf i godi eu pryderon am y diffyg gwasanaethau bancio yn Gymraeg.
“Ond yn lle ymateb i’r cwynion, mae’n ymddangos bod HSBC a banciau eraill yn meddwl bod siarad fel hyn yn briodol.”
‘Haeddu gwasanaethau yn iaith swyddogol ein gwlad’
Tra bod rhai o gwmnïau mawr y byd yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys Microsoft a Google, mae HSBC “yn gwrthod caniatáu i chi fancio ar-lein yn Gymraeg”, meddai Tamsin Davies.
“Mae trethdalwyr yng Nghymru wedi achub y sector bancio, siawns ein bod yn haeddu gwasanaethau yn iaith swyddogol ein gwlad.”