Fe fydd pob aelod o staff Urdd Gobaith Cymru yn cael diwrnod o wyliau ar Fawrth 1, wrth i’r mudiad gydnabod pwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi fel “diwrnod o ddathlu”.

Mae’r Alban ac Iwerddon eisoes yn cynnal gwyliau banc ar ddydd eu nawddsant, gyda’r Albanwyr yn dathlu Gŵyl San Andreas ar Dachwedd 30 a’r Gwyddelod yn dathlu Gŵyl San Padrig ar Fawrth 17.

Ond er nad oes gŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghymru, mae’r mudiad ar gyfer ieuenctid Cymru wedi penderfynu gwneud yr ŵyl yn ddiwrnod swyddogol o wyliau ar gyfer ei holl staff.

Mewn datganiad, dywed yr Urdd mai ei nod yw i “ddathlu yr hunaniaeth unigryw o fod yn Gymro neu Gymraes, ac yn yr hinsawdd fregus wleidyddol bresennol, mae’r nod hwn yn fwy amlwg nac erioed o’r blaen”.

“Carreg filltir”

“Fel mudiad cenedlaethol sy’n annog plant a phobol ifanc i gymryd balchder yn eu gwlad, eu hiaith a’u diwylliant, mae’n bwysig ein bod yn arwain drwy esiampl drwy arddel ein hunaniaeth a dathlu hynny,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

“Yn yr hinsawdd bresennol, mae’n angenrheidiol i ni fod yn flaengar ac hyderus yn ein hunaniaeth ac mae Dydd Gŵyl Dewi yn rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.

“Trwy gael diwrnod yn rhydd o’r gwaith, mae’n gyfle i’n staff ddathlu’r achlysur gyda theulu a ffrindiau yn eu cymunedau lleol neu mewn digwyddiadau cenedlaethol.

“Rydw i’n falch iawn o gyhoeddi, felly, y bydd Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod swyddogol o wyliau i holl staff yr Urdd o 2019 ymlaen.”