Mae Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datgan siom ar ol i gerbyd 4×4 arall gael ei ddarganfod ar gopa’r Wyddfa bore ma.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod y weithred yn “anghyfrifol” ac y gallai fod wedi “achosi perygl di-anghenrhaid i ddefnyddwyr o’r mynydd, y tirlun ac adeilad Hafod Eryri.”
Mewn datganiad, dywedodd yr Awdurdod eu bod mewn cyswllt â’u partneriaid gan gynnwys timau achub mynydd Llanberis a Dyffryn Ogwen, Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa a’r Heddlu er mwyn atal y cerbyd rhag cael ei symud er mwyn diogelu’r cyhoedd a rhwystro difrod i eiddo.
Dyma’r ail waith i gerbyd 4×4 gael ei adael ar gopa’r Wyddfa. Ar Fedi’r 3 cafodd Craig Williams ei arestio am yrru ei 4×4 i’r copa, a chafodd ei rybuddio gan yr heddlu os byddai’n ceisio dychwelyd i’r copa mewn cerbyd eto yna byddai’r cerbyd yn cael ei atafael a’i ddinistrio.
Fe gyhoeddodd Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa rybudd swyddogol i Craig Williams yn ei rybuddio i beidio â thresbasu ar eu tir a chafodd infois ei anfon ato am £3,000 ar gyfer costau symud y cerbyd oddi ar y mynydd. Nid yw’r cwmni wedi derbyn unrhyw daliad ganddo.
Mae timau achub Llanberis a Dyffryn Ogwen wedi datgan nad ydynt am dderbyn unrhyw enillion os caiff y cerbyd ei werthu trwy’r weithrediad anghyfrifol yma.
Yn ôl Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips “Mae’r weithred yma yn gwbl annerbyniol ac rwy’n annog yr heddlu i gymryd y camau priodol i erlyn y sawl sy’n gyfrifol a sicrhau fod y cerbyd yn cael ei waredu.”
Mae trafodaethau rhwng y Parc, partneriaid eraill a’r Heddlu yn parhau mewn cysylltiad â beth sy’n mynd i ddigwydd i’r cerbyd .