Mae un o academyddion amlycaf Cymru ym maes Diwinyddiaeth yn dweud bod dychwelyd at y weinidogaeth wedi cyfnod o dri degawd fel “dychwelyd at hen gariad”.
Bu’r Athro Densil Morgan yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn ardal Pen-y-groes ger Cross Hands yn yr 1980au, cyn symud i Fangor ac, yn ddiweddarach, i Lanbedr Pont Steffan er mwyn dilyn gyrfa yn y byd academaidd.
Ond ers ymddeol o’i swydd yn Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant ddwy flynedd yn ôl, mae’r gŵr sy’n wreiddiol o Dreforys wedi penderfynu ailafael yn ei hen swydd, gan gymryd gofal o chwe chapel yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder.
“Mae cael gweinidogaethu gyda phobol, gwasanaethu pobol a chael fy nghroesawu i aelwydydd pobol yn beth cyfoethog dros ben,” meddai Densil Morgan wrth golwg360.
“Dw i’n cael llawenhau gyda phobol, tristáu gyda phobol a’u gwasanaethu nhw.”
‘Parhad a newid o ran addoli’
Gyda mwy na 30 mlynedd ers i’r ysgolhaig fod yn gyfrifol am ei gapeli ei hun, mae Densil Morgan yn cydnabod bod Cymru a’r byd “wedi symud ymlaen yn enbyd iawn” ers y cyfnod hwnnw.
Ond gyda “heriau newydd” yn wynebu capeli heddiw, mae’n credu bod yna “elfen o barhad ac elfen o newid” o ran y ffordd mae pobol yn addoli.
“Ar un wedd, gallwch chi ddweud bod pethau wedi gwella yn yr ystyr bod y syniad o grefydd fel confensiwn – dim ond dilyn yr arfer – mae yna lai o hynny erbyn hyn nag oedd deugain mlynedd yn ôl,” meddai eto.
“Mae yna fwy o argyhoeddiad, dw i’n credu. Mae pobol yn mynd [i’r capel] achos eu bod nhw eisiau mynd ac achos eu bod nhw’n teimlo’n eu bod nhw’n cael rhywbeth allan o fynd a’i fod e’n rhan bwysig o fel maen nhw’n deall eu bywyd nhw…
“Dw i’n teimlo bod yna fwy o ffydd nag o arfer yn bod. Mae hynny’n beth da, ond mae yna lai o bobol ac, yn sicr, mae yna lai o bobol ifanc, felly dyna fydd y pwyslais.”