Mae trigolion pentref Cwm Gwaun yn Sir Benfro ymhlith y Cymry sy’n dathlu’r Hen Galan heddiw.
Mae’r traddodiad yn ddathliad o’r hen galendr a gafodd ei ddisodli yn 1752, lle’r oedd y flwyddyn newydd yn dechrau ar Ionawr 13.
Fe fydd y dathliadau’n cynnwys plant yn canu Calennig ac yn cael rhoddion gan eu cymdogion am eu hymdrechion.
Maen nhw fel arfer yn cael y diwrnod i ffwrdd o’r ysgol pan fo’r diwrnod yn cwympo yn ystod yr wythnos.
Mae amryw ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws yr ardal a ledled Cymru heddiw.
Ymdriniaeth y wasg
Ond nid pawb sydd fel pe baen nhw’n deall y traddodiad.
Mae erthygl ar wefan Saesneg BBC Cymru’n pwysleisio nad yw trigolion Cwm Gwaun yn dathlu’r ‘Flwyddyn Newydd’ ar y dyddiad anghywir.
“Mae pentrefwyr yng ngorllewin Cymru’n dymuno blwyddyn newydd dda i’w gilydd – er ein bod bythefnos i mewn i 2019,” meddai’r erthygl.
“Ond dydi pobol yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, ddim wedi cymysgu eu dyddiadau, byddan nhw’n dathlu’r Hen Galan neu ‘yr hen flwyddyn newydd’.”
Blas ar y dathliadau ledled Cymru
Fe ddaeth y Fari i Dŷ Tawe neithiwr…pa ffordd well i ddechrau sesiynau 2019! #yagym #sesiwnwerin #cymraeg #Abertawe #Marilwyd #tytawe pic.twitter.com/ploFeHBQDa
— Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe (@cyrfe) January 12, 2019
Criw y #FariLwyd @AradGoch ac arweinydd Noson yr Hen Galan @Creunant yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb oedd yn yr @HenGolegAber heno i godi arian i apel @ceredigion2020 pic.twitter.com/CYmI4XKW9v
— Sian Evans (@sianeaber) January 12, 2019
Y Fari Lwyd wedi cyrraedd Hen Goleg @Prifysgol_Aber i godi arian at @ceredigion2020 pic.twitter.com/elld7zZTAt
— Siôn Jobbins (@MarchGlas) January 12, 2019
The Mari Lwyd in Abergavenny tonight to celebrate Hen Galan #MariLwyd #HenGalan #Wales #Cymru pic.twitter.com/ZV2gGW8Nx6
— Nigel Bond #FBPE (@NigelBond) January 12, 2019