Bydd ymgyrchwyr iaith ledled y wlad yn cynnal cyfres o bicedi tros y penwythnos, fel protest yn erbyn Trafnidiaeth Cymru.
Enw masnachol yw ‘Trafnidiaeth Cymru’ ar gyfer y cwmni trenau sy’n cael ei weithredu gan KeolisAmey Cymru, a nhw sy’n gyfrifol am wasanaethau o fewn Cymru.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dyw’r cwmni ddim hyd yn oed yn darparu “gwasanaeth sylfaenol” yn y Gymraeg, a bydd y protestiadau’n cael eu cynnal fel ymateb i hynny.
Bydd picedi yn cael eu cynnal yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Machynlleth a Bangor; ar ddydd Sadwrn (Ionawr 12).
A daw’r brotest ddiweddaraf yn sgil protest debyg yng Nghaerdydd cyn y Nadolig.
“Hollol sylfaenol”
“Pan yr ydych yn sefydlu corff neu gwmni newydd fel hyn, buasech yn meddwl ei fod yn gyfle da i wneud pethau’n iawn o’r dechrau,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Osian Rhys, wrth golwg360.
“Ond yn amlwg dydyn nhw ddim wedi rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg o ddifri. Does dim cyhoeddiadau yn Gymraeg ar y trenau, mae [yna ddiffyg Cymraeg] ar rannau o’r wefan, a dyw’r ap ddim ar gael yn Gymraeg.
“Pethau hollol sylfaenol ydyn nhw yn y bôn. A phethau ddylwn ni beidio gorfod protestio amdanyn nhw’r dyddiau yma, mewn gwirionedd.”
Camau nesaf
Bydd ymgyrchwyr yn cwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg ar dydd Gwener (Ionawr 11), ac maen nhw eisoes wedi cysylltu â hi tros y mater, medden nhw.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod wedi gofyn am gwrdd â rheolwyr Trafnidiaeth Cymru, a byddan nhw’n cwrdd â nhw nes ymlaen yn y mis.
Mae golwg360 wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru am ymateb.