Mae teyrngedau wedi eu rhoi i “ŵr cariadus” a fu farw mewn gwrthdrawiad yn nwyrain Sir Gaerfyrddin.
Roedd pedwar cerbyd yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr M4 – 200 llath yn unig o wasanaethau Pont Abraham – ar Ionawr 7.
Cafodd nifer o bobol eu cludo i’r ysbyty, a bu farw dyn 81 oed o ardal Llandeilo, Roy Amos.
“Roedd Roy yn ŵr, tad, tad-cu a’n hen dad-cu cariadus,” meddai ei deulu mewn datganiad. “Byddwn yn ei fethu yn fawr.”
Mae’r heddlu yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, ac yn apelio yn benodol am ddeunydd o gamerâu.