Mae adroddiad wedi taflu rhagor o olau tros ddamwain awyren yn Sir Benfro’r llynedd.

Plymiodd yr awyren ‘Piper PA-28-180 Cherokee’ o’r awyr ar Fedi 4, gan lanio mewn dŵr bas ar yr arfordir.

Roedd y peilot 53 oed wedi bwriadu glanio ar draeth Porth Mawr, rhyw ddwy filltir o Dŷ Ddewi, ar ôl sylweddoli bod rhywbeth yn bod ag injan yr awyren.

Ond er mwyn osgoi anafu pobol ar y traeth, bu’n rhaid iddo anelu am y môr yn lle.

“Gwnaeth blaen yr awyren falu wrth daro yn erbyn y dŵr,” meddai’r adroddiad. “Ond ni chafodd y peilot ei anafu, a llwyddodd i adael yr awyren heb gymorth.”

Syrffio

Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau bod yr awyren wedi gadael Maes Awyr Hwlffordd am 12.59 y prynhawn, ac wedi plymio o’r awyr tua 1.15 y prynhawn. Cafodd neb arall eu hanafu.

Mae traeth Porth Mawr wedi ennill gwobrau am ei safon, ac yn fan syrffio poblogaidd.