Mae disgyblion Ysgol Gynradd Bro Idris, Dolgellau, wedi ennill un o wobrau ‘Ffermfeisio’ Undeb Ffermwyr Cenedlaethol am greu byrbryd iachus.
Daeth disgyblion o Ddosbarth y Gleision ym mlynyddoedd 1 a 2 yr ysgol i frig categori ‘Byrbryd Prydeinig go-iawn’ y gystadleuaeth am eu gwaith dylunio a chreu diod smwddi iachus o fananas, mafon a llaeth.
Roedd y disgyblion hefyd wedi edrych ar fuddion iachus llaeth, yn enwedig ar sut y gallai gael ei ddefnyddio yn eu smwddi i gyfrannu at greu dannedd ac esgyrn cryfion.
Bydd eu gwaith ymchwil a dylunio nawr yn cael ei arddangos yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain, ble bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy yw pencampwyr y gystadleuaeth gyfan.
Y gystadleuaeth
Daeth naw ysgol i’r brig mewn gwahanol gategorïau yn y gystadleuaeth, a lansiwyd ym mis Medi.
Yr her i blant ysgol gynradd ar draws Ynysoedd Prydain oedd datrys un o dair problem o fyd ffermio gan ddefnyddio Gwyddoniaeth, Technoleg, a Mathemateg.
Roedd y rhain yn cynnwys dylunio tractor y dyfodol, dylunio amgylchfyd ar gyfer cwt o 100 o ieir, a dylunio byrbryd newydd gyda phedwar cynhwysyn Prydeinig – sef categori dewisol disgyblion Ysgol Bro Idris.
Hwn oedd cystadleuaeth gyntaf Undeb Cenedlaethol Ffermwyr ar gyfer ysgolion cynradd a gwelwyd “brwdfrydedd eithriadol gan yr athrawon a’r disgyblion,” yn ôl Llywydd yr Undeb yng Nghymru, John Davies.
“Gyda dros fil o ysgolion yn anfon eu dyluniadau, mae’r gystadleuaeth yn dangos yn eglur bod gan fwyd a ffermio le i’w chwarae ym myd addysg.”
“Wrth eu boddau”
Dywedodd Mrs Teleri Mai Jones, athrawes Dosbarth y Gleision, Ysgol Bro Idris. “Dyma beth oedd sypreis, a dechrau arbennig iawn i’r flwyddyn newydd yn ein dosbarth ni, bore ‘ma, pan gawsom yr e-bost i ddweud ein bod wedi ennill cystadleuaeth Ffermfeisio NFU trwy Brydain!”
Un rhan o’r wobr yw bod cogydd proffesiynol yn dod i’r ysgol.
“Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed y newyddion ac yn hapus iawn gyda’r gwobrau!” ychwanegodd Mrs Teleri Mai Jones.