Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am y cynllun i godi atomfa niwclear newydd ar Ynys Môn wedi dweud bod “dim penderfyniad ffurfiol” wedi ei wneud ynghylch parhau â’r gwaith.
Daw’r sylw gan Hitachi yn dilyn adroddiad yn y Nikkei Asian Review sy’n honni bod bwrdd y cwmni yn debygol o roi stop ar y gwaith ar safle’r Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yr adroddiad yn “bryderus”.
“Dyma brosiect pwysig gyda buddion economaidd sylweddol i Gymru,” meddai llefarydd y Llywodraeth.
“Byddwn yn parhau i gadw golwg fanwl ar y sefyllfa a phwyso ar Lywodraeth Prydain i wneud popeth o fewn ei allu i helpu i ddod â’r prosiect yma i Fôn.”
£12 biliwn
Mi fyddai yn costio £12 biliwn i adeiladu’r atomfa newydd, ac mae Llywodraeth Prydain wedi bod yn trafod cyfrannu at y costau gyda Hitachi.
Mae’r cwmni o Japan eisoes wedi buddsoddi £2 biliwn yn y safle, ond mae pryderon bod costau yn cynyddu.
Yn dilyn yr adroddiad am roi stop ar y gwaith, fe gynyddodd gwerth cyfranddaliadau yn Hitachi gan 8%.
Mae’r cwmni yn pwysleisio bod “dim penderfyniad ffurfiol” wedi ei wneud ynghylch dyfodol y prosiect allai ddod â 6,000 o swyddi adeiladu dros dro i Fôn, a 1,000 o swyddi parhaol.
Ond mae Hitachi yn cydnabod bod rhoi stop ar y gwaith yn opsiwn wrth iddyn nhw “asesu effaith ariannol y prosiect” ar y cwmni.
“Dros ddegawd wedi ei wastraffu ar Wylfa”
Mae PAWB – Pobol Atal Wylfa B – wedi cyhoeddi datganiad yn “croesawu adroddiadau o Siapan sy’n awgrymu’n gryf y bydd cwmni Hitachi yn rhewi eu prosiect i godi atomfa yn yr Wylfa.
“Os bydd hyn yn cael ei gadarnhau mewn cyfarfod o Fwrdd Hitachi yr wythnos nesaf yna bydd yn rhyddhad i bob un ohonom sy’n poeni am ddyfodol ein hynys, ein gwlad,ein hiaith, yr amgylchedd ac yn wir am ynni cynaliadwy.
“Rhybuddiodd PAWB ers blynyddoedd fod y costau ynglŷn â phrosiect Wylfa yn debygol o fod yn faen tramgwydd angheuol i’r prosiect, ond cawsom ein hanwybyddu.
“O ganlyniad buddsoddwyd miliynau o arian trethdalwyr Ynys Môn, Cymru a’r Deyrnas Unedig yn hyrwyddo Wylfa B.
“Yn ogystal buddsoddwyd cyfalaf gwleidyddol, a gwelwyd methiant i drafod yn aeddfed y prosiect heblaw yn nhermau swyddi ac arian.
“Gwaddol hyn, os mai gwir y darogan o Siapan, yw fod dros ddegawd wedi ei wastraffu ar Wylfa, ac ychydig iawn o gynllunio economaidd amgen wedi digwydd.
“Addawyd swyddi i’n pobl ifanc ar seiliau simsan. Difethwyd tir da i greu isadeiledd i gefnogi’r diwydiant.”