Mae’r Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, yn honni bod digwyddiadau tu allan i San Steffan yn cadarnhau bod “Brexit yn brosiect i eithafiaeth genedlaethol Seisnig”.
“Does dim dau” am hynny, meddai wrth golwg360, cyn esbonio sut mae’r “tueddiad gwleidyddol hynny” wedi cael ei hamlygu.
Cafodd Aelod Seneddol Ceidwadol, Ann Soubry, ei galw yn “Natsi” ar College Green ddydd Llun, Ionawr 7), ac mae cryn sylw wedi’i roi i lythyr gan Aelodau at Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan yn sôn am “ddirywiad” safonau diogelwch San Steffan.
“Mae Aelodau Seneddol yn gorfod magu croen trwchus iawn,” meddai wrth drafod y gamdriniaeth maen nhw’n profi.
“Ond beth sy’n becso fi ynglŷn â’r broses yw ymddygiad y Llywodraeth Brydeinig mwy nag unrhyw beth, y naratif maen nhw a’r papurau propaganda yn Llundain yn hybu.”
Mae’n dweud eu bod yn peintio unrhyw wleidydd sydd yn erbyn polisi’r Llywodraeth o fod “yn gweithredu mewn ffordd o fradychu.”
Mae’r system ddiogelwch yn pryderu Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr hefyd.
“Dim ond un ffordd mewn a mas sydd o College Green tu allan i San Steffan, sydd wedyn yn gadael rhai pobol sy’n cerdded o’r stad draw i’r cyfweliadau mewn sefyllfa fregus iawn,” meddai Jonathan Edwards wedyn.