Mae heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ol i ddyn 38 oed farw wedi damwain beic cwad ym mhentref Cil-y-cwm ger Rhandirmwyn nos Sadwrn, Ionawr 5.

Roedd y dyn lleol yn gyrru beic cwad Honda coch ar lon gefn tua 10.35yh pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd anafiadau difrifol a’i gludo i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ond fe fu farw’r diwrnod canlynol (dydd Sul, Ionawr 6).

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu.