Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod prisiau tai yng Nghymru wedi codi 4% y llynedd.
Ar gyfartaledd roedd tŷ yn costio £156,891 yng Nghymru ar derfyn 2018.
Drwyddi draw yng ngwledydd Prydain, y cyfartaledd oedd £212,281 gyda phrisiau tai i lawr 0.7% ar y cyfan.
Yn yr Alban, roedd prisiau 0.9% yn uwch ar gyfartaledd o £147,856.
O ran cynnydd, Gogledd Iwerddon oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf gyda phrisiau tai erbyn diwedd y flwyddyn wedi cynyddu 5.8% ac yn costio£139,599 ar gyfartaledd.
Dyma brisiau tai cyfartalog ar draws gwledydd a rhanbarthau Ynysoedd Prydain ar ddiwedd2018, yn ôl Cymdeithas Adeiladu Nationwide:
– Cymru: £156,891, 4.0%
– Yr Alban, £ 147,856, 0.9%
– Gogledd Iwerddon: £139,599, 5.8%
– Dwyrain Canolbarth Lloegr: £184,283, 4.0%
– Swydd Efrog a Humberside: £157,436, 3.7%
– Gorllewin Canolbarth Lloegr: £188,163, 2.9%
– Gogledd Orllewin Lloegr: £160,984, 2.2%
– De Orllewin Lloegr: £244,304, 2%
– Dwyrain Anglia: £228,014, 2%
– Gogledd Ddwyrain Lloegr: £125,813, 1%
– De Ddwyrain Allanol Lloegr: £277,117, 0%
– Llundain £466,988, – 0.8%
– Metropolitan Allanol: £356,531, – 1.4%