Am ddau ddiwrnod ynghanol y mis, cafodd disgyblion a theuluoedd yn nhref Caerfyrddin gyfle i wylio pantomeim Saesneg yn cael ei berfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Aladdin, sydd wedi cael ei gynhyrchu gan Jermin Production, wedi bod yn ymweld â theatrau ledled de Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnal perfformiadau yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg.

Ond yn dilyn llwyddiant fersiwn Cymraeg o Jack and the Beanstalk y llynedd, fe benderfynodd cynhyrchwyr y panto blynyddol i gynnal dau berfformiad Cymraeg ar gyfer eleni, a hynny yn Theatr y Lyric ar Ragfyr 13 a 15.

Ymhlith perfformwyr adnabyddus y cast oedd yr actor a chyn-aelod o’r grŵp Mega, Marc Skone, a chyn-aelod o Only Boys Aloud, Gareth Evans.

“Clownio o gwmpas”

Yn ôl Marc Skone, a ymddangosodd yn Jac a’r Fuwch y llynedd ac sydd wedi dychwelyd i chwarae’r dêm ‘Widow Twankey’ yn Aladdin, mae’n “bwysig” bod plant a theuluoedd yn cael cyfle i weld y sioe yn y ddwy iaith.

“Be dw i’n tueddu i ffindo yw bod unrhyw banto Cymraeg, heblaw am un Martyn Geraint, yn weddol ddwys gyda rhyw hanes neu neges bwysig y tu ôl iddo fe,” meddai wrth golwg360.

“Ond gyda hwn, mae jyst yn cael gwared ar hwnna ac yn llawn hwyl a sbri, a llawn twpdra.

“Ry’n ni’n tueddu i glownio o gwmpas a rhoi one-liners i mewn, ac mae hwnna’n beth neis i neud.”

Cyfieithu jôcs?

Wrth gynnal perfformiadau ochr yn ochr yn Gymraeg a Saesneg, mae Marc Skone yn cyfaddef bod cyfieithu llinellau a jôcs wedi bod yn “galed” iddo.

“Pan ddechreuon ni, ro’n i’n meddwl y gallen i jyst trwco o’r Saesneg i’r Gymraeg,” meddai.

“Ond mae ambell jôc Saesneg ddim yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n rhaid i fi feddwl am linelle arall i fynd mewn neu gael gwared ar jôc o fan hyn a rhoi rhai newydd yn fyn hyn.

“Dyw e ddim mor hawdd a beth mae pawb yn meddwl.”

Mae modd cael blas o Aladdin yn y clip yma:

A very LOUD audience this morning for our first SCHOOL PERFORMANCE of the week!!! The Princess Royal Theatre #AladdinSouthWales

Posted by Jermin Productions on Tuesday, 4 December 2018